Feeds:
Cofnodion
Sylwadau

Don Touhig: dyn y werin

Yn garej Wil Sam yn Llanystumdwy, y Crown, mi oedd dau bwmp petrol – un yn gwerthu petrol gwell na’r llall. Bonedd a Gwreng oedd enwau’r ddau bwmp. Dyna’r driniaeth aeddfetaf o’r math yma o dermau gwrthgyferbyniol a welais i. Erbyn hyn, y Werin a’r Crachach yw’r ddau air a ddefnyddir amlaf – ac maen nhw’n cael eu defnyddio’n rhy aml. Mae Llafur wedi hijacio’r termau wrth gwrs, ac fel mae pleidiau hegemoniaidd yn gwneud wedi llwyddo i ddwyn yr ystyr a’i newid mewn un symudiad rhwydd.

Yn wreiddiol, yr uchelwyr diwydiannol Seisnig yn y cymoedd oedd y Crachach. Erbyn hyn, mae’n enw ar deips cyfryngol Cymraeg Caerdydd – y math sy’n bwyta yn Le Gallois. Mae’r newid yn syfrdanol ac yn dangos y math o afael y gall woncars fel Don Touhig ei gael ar syniadaeth ddim ond trwy ddau air. Mae’r erthygl hon gen Carolyn Hitt (y gellid sgwennu un well ar y tŷ bach) sydd i fod i ddweud wrthym yn iawn pwy yw’r Crachach yn dod i’r casgliad amheuthun hwn:

You don’t necessarily have to be rich to be crachach, a direct bloodline to writer Saunders Lewis will do nicely.

Yn yr un erthygl cysylltir y Crachach â ‘Gorsedd of the Eisteddfod’, y Cwmni Opera Cenedlaethol, Canolfan y Mileniwm, Neuadd Dewi Sant, Bro Morgannwg, Pontcanna, cadeirio pwyllgorau, rygbi efo canapes, tai haf yn Sir Benfro, arddangosfeydd Kyffin Williams, cenedlaetholdeb, gwobrau’r frenhines, grantiau heb eu haeddu, gwobrau Bafta Cymru a ‘medieval Welsh in cynghanedd metre’. Mae’n debyg nad ydi’r rheina i gyd i fod yn berthnasol i un crachyn, ond y gwir amdani yw mai grŵp wedi’i ddychmygu yw hwn. Mae un neu ddwy o’r nodweddion hyn yn wir am dipyn o bobl, ond does ‘na mo’r fath grŵp â’r Taffia a ddisgrifir.

Mae’n grŵp cyfleus: gellir ei feio am bopeth drwg sy’n digwydd yng Nghymru ac esgusodi gwrth-Gymreigrwydd rhonc. Mae’n arwydd o ddiogi cenedl nad yw’n barod i feddwl yn radical er mwyn gwella’i sefyllfa – gwnaiff beio rhyw elyn ar y tu mewn y tro.

Mae ‘na bobl ddosbarth canol Cymraeg yr ydw i’n anghyfforddus eu gweld yn strytio’u stwff ar bres cyhoeddus. Mae’n rhaid fod hynny’n ymddangos yn llawer gwaeth i rywun diGymraeg. Ac mae’n rhaid i bob cenedl gael bogeyman. Gallwn ddioddef clywed defnyddio’r term gan bobl gyffredin ond yr hyn sy’n fy ngwylltio yw clywed gwleidyddion yn sôn am Grachach a Gwerin fel tai’r Crachach yn broblem goncrid, go iawn mewn cymdeithas yng Nghymru.

Mi fyddwn i hyd yn oed yn gallu dioddef sôn am Grachach tasai o’n gyfyngedig i un neu ddau o bobol. Ond mae’n ymddangos fod siarad Cymraeg a dim mwy yn eich gwneud chi’n un o’r Crach erbyn hyn. Ac mae’r gair yn un sy’n hollti pobl ac yn cynyddu amheuaeth rhwng Cymry a’i gilydd.

Wrth gwrs, mae honno’n dacteg bwysig gan bobl fel Llafur. Don Touhig yw’r meistr:

The chattering classes, the crachach, who believe that they know best for Wales, swoon at the prospect of more powers for the National Assembly. Many in the media think that more powers for Cardiff is the story of the decade–tosh, rubbish. The real people of Wales, the werin, have no time for all of this, and I stand with them.

Rwtsh llwyr – creu bwgan o ddim byd a smalio sefyll efo’r bobl gyffredin er bod y bobl gyffredin yn llawer mwy deallus nag yr hoffai Don iddyn nhw fod. Mae’r syniad fod gan y fath endidau ffug ryw fath o ddylanwad ar wleidyddiaeth pobl yn anghredadwy: ydi Don Touhig wir yn credu’r hyn mae’n sbowtio?

Ac mae’r popiwlydd diflino Rhodri Morgan yn gwneud yr hyn fedar o i ymestyn teyrnas y crach: erbyn hyn, mae’r crachach yn arbenigwyr cyfansoddiadol hefyd – wrth ganmol adroddiad Syr Emyr pwysleisiodd ei bod yn allweddol i Mr a Mrs Jones gael eu barn yn hytrach na’r ‘usual suspects’ a’r Crachach. Mae wedi gwneud mwy na neb i ledaenu’r termau annymunol hyn a’u gwneud nhw’n gyffredin – ‘Cynulliad y werin nid y crachach’ yw’r llinell enwog ganddo.

Mae’r defnydd gwleidyddol o’r termau hyn yn ffiaidd ac yn wleidydda diog gan blaid Lafur sy’n dibynnu ar class war a chreu synnwyr o annhegwch mewn pobol am ei hocsigen gwleidyddol.

Ond nid Llafur yn unig sy’n euog: mae’r Ceidwadwr Dylan Jones Evans yn gwneud yr un peth. Ac mae gweld y paragon gwleiyddol Aeron Maldwyn Jones, y ffigwr sydd goruwch pob plaid yn defnyddio’r hen syniad a’r myth diog hwn yn blino dyn hefyd:

Rwan mae Canolfan Hwylio yn rhywbeth elitaidd uffernol, ydi plant stadau tai cyngor Pwllheli am ddefnyddio’r adnodd hwn – nac ydi wrth gwrs. Plant i Gyfreithwyr, Cyfrifyddion, Uwch Swyddogion Cyhoeddus a ballu fydd y targed.

Nid yr un gair yn benodol, ond yr un sentiment wedi cael ei drosi i sefyllfa arall.

Mae angen cael gwared ar y geiriau hyn (a’r syniadau chip-ar-ysgwydd maen nhw’n gynrychioli) o eirfa wleidyddol Cymru.

Dilynwyd y cyhoeddiad am ddyddiad ymddeol Rhodri Morgan gan y gyfres ragweladwy o ddatganiadau cynnes a chanmoliaethus a oedd i’w disgwyl. Mae o’n wleidydd aruthrol boblogaidd – mae o wedi perffeithio’r grefft o fod yn ‘ddyn y bobl’ yn well na neb arall. Gellwch weld teyrngedau’r Cynulliad iddo ar ei ben-blwydd yn fan hyn. Ei ymarweddiad a’i gof mawr a manwl yw’r prif bethau y mae’n cael eu canmol amdanyn nhw.

Ond tra bod ei approval ratings yn well na rhai’r Arlywydd Obama, mae’r blaid mae o’n ei harwain wedi bod yn dioddef ei cholledion etholiadol gwaethaf ers degawdau. Mae o wedi methu â rhoi trefn ar ei blaid yn fewnol – ac yn wir wedi bod yn arweinydd trwy gyfnod y chwalu. Mae’r imiwnedd yma i ganlyniadau a datgymalu’r blaid mae o’n ei harwain yn beth hynod iawn.

Ar y llaw arall, mae’i boblogrwydd a’i sefydlogrwydd wedi bod yn gaffaeliad i’r Cynulliad fel sefydliad – mae o wedi’i seilio’n gadarn rŵan ac mae hynny’n ganlyniad i raddau helaeth i gymeriad Rhodri Morgan. Rhaid ei ganmol hefyd am ei ymateb i’r argyfwng ariannol – mae wedi bod yn hands-on ac yn frwdfrydig ei help.

Tua’r cyfnod hwn, pan nad oedd ond canmoliaeth o’r Prif Weinidog i’w glywed, mi wnes i ddarllen peth o hunangofiant Cynog Dafis – llyfr sy’n rhoi golwg ardderchog ar fywyd cynnar cythryblus a chyffrous y Cynulliad. Ynghanol y myth (rhannol haeddiannol) sydd wedi codi ynghylch Rhodri Morgan roedd hi’n hynod ddifyr gweld safbwynt rhywun oedd yno ar y pryd a gweld sut mae hynny’n cymharu â’r ddelwedd heddiw. Ta waeth, dyma rannu rhai o argraffiadau Cynog…

Cyn i Rhodri ddod yn Brif Weinidog:

Ar y pryd roedd ‘na amheuon mawr ynghylch Rhodri Morgan fel Prif Ysgrifennydd credadwy.

Roedd ei rybudd e [Ron Davies] yn daer y byddai Rhodri Morgan yn drychineb fel Prif Ysgrifennydd.

Am ei araith gyntaf fel Prif Weinidog:

…rhagweladwy o siomedig. [...] y math o wamalrwydd ffug-werinol a fabwysiadodd fel marc ei arweinyddiaeth.

A does fawr mwy o ganmoliaeth i Rhodri fel PW chwaith. Wrth wynebu dadl am le a dyfodol Cymru, roedd Rhodri yn:

pandro i’r elfennau mwyaf adweithiol-wrthGymreig yn rhengoedd ei blaid.

Bu cyfnod cythryblus 2001-2002 pan oedd Mike German wedi gorfod ymddiswyddo dros dro o’i swydd gabinet glymblaid fel Gweinidog Datblygu Economaidd. Roedd hwn yn gyfnod tyngedfennol o ran polisi datblygu economaidd. Cymerodd Rhodri’r awenau a gwneud potsh ohoni.

Ynglŷn ag addysg Gymraeg, roedd mor flippant ag erioed, gan ddweud am Dafydd Glyn Jones:

‘…ond oedd e’n gwneud i fi feddwl am Saunders Lewis.’

Methodd â rhwystro rhwygiadau poenus rhag ymddangos wrth drafod y mater hwn.

Mae Vaughan Roderick yn galw‘r potsh a wnaeth Rhodri o ymateb i gomisiwn Richard yn un ‘talcen slip’ – a chollwyd cyfle i wella datganoli oherwydd y llanast a wnaeth. Wrth sôn am rôl y Democratiaid Rhyddfrydol yn ceisio cael rhywbeth allan o’r adroddiad hwnnw, dywed Cynog:

Nid arnyn nhw mae’r bai bod Rhodri Morgan a Llafur Cymru wedi bradu’r fath gyfle mor waradwyddus.

Wrth reswm, dydw i ddim yn dweud mai o hunangofiant gwleidydd o blaid wahanol y mae cael y gwir am arweinydd. Ond mae’r sylwadau yna’n gwneud rhywfaint i ddangos i ni ochr arall y geiniog.

Yr hyn sy’n ei amlygu ei hun dro ar ôl tro yw mai greddfau popiwlist a ffug-werinol sy’n llywio Rhodri Morgan – y greddfau a’i gwnaeth o’n arweinydd poblogaidd ar blaid amhoblogaidd. Yn ail i hynny mae lles pleidiol. Pan gafodd Rhodri’r cyfle i benderfynu ar faterion anodd, dewis troi y ffordd rwydd a phoblogaidd, neu’r ffordd orau i’r Blaid Lafur mae o wedi’i wneud. Digon hawdd bod yn figurehead i ddatganoli yn y tywydd teg. Gallai Rhodri Morgan wedi defnyddio’i ddawn wleidyddol i uno Cymru go iawn. Aeth y ffordd orau iddo’i hun a’i blaid yn rhy aml.

Daw hynny â ni at helyntion dydd Mawrth. Gellwch ddarllen yr hanes ar flogiau Vaughan wrth gwrs, Betsan, Politics Cymru ac eraill – does dim angen i mi ailadrodd y llanast llwyr a fu. Yn y bôn, rhoddodd Rhodri’i enw ar ddatganiad hunanol a phartisan ar ran y Blaid Lafur – gafael yn llaw farw Peter Hain a gwneud ei ewyllys. Treuliodd weddill y diwrnod yn gwingo. Mae’n dweud rhywbeth am faint o dwyllwr gwleidyddol yw Rhodri Morgan fod Nick Bourne yn gallu gofyn iddo a oedd yn dymuno diarddel y datganiad a wnaeth. Datganiad a gyhoeddwyd yn ei enw’i hun!

Mae’n debyg fod yma ormod o stwff i un blogiad ac mae mwy eto i’w weld a’i ddadansoddi am Rhodri Morgan. Bydd yn ddifyr gweld sut y bydd yn bihafio yn ystod yr ymgyrch refferendwm. Os gall ei ddisgyblu ei hun i arwain yr ymgyrch ‘Ie’ (ar y cyd â Dafydd Wigley, efallai) gan fod yn driw i Gymru yn hytrach nag ef ei hun a Llafur, efallai y gall rhywun anghofio’r brychau mawr ar ei Brif Weinidogaeth.

Fe ges i, a phawb israddedig yn y brifysgol, ebost ar 30/10/09 yn fy ngwadd am gyfweliad â’r Cyrnol Patrick Lorrington Davies i drafod ein hopsiynau ynglŷn â mynd yn swyddogion yn y fyddin. Gallai cyfweliad felly fod yn fuddiol i rywun sy’n meddwl am y fath yrfa’n barod, ond roeddwn i’n teimlo bod rhoi ystafell a hysbyseb i’r fyddin gan y Brifysgol yn anghywir. Mae gan y brifysgol ddylanwad ar bobl ac yn fy marn i roedd hyn yn gamddefnydd o’r dylanwad a’r grym hysbysebu hwnnw ac yn gamddefnydd o adnoddau’r brifysgol.

Mi yrrais i’r ebost hwn at L Goodhew, pennaeth yr adran yrfaoedd a chyfleoedd – o’i hadran hi y daeth yr ebost.

Annwyl Ms Goodhew,

Dymunaf wneud cwyn am yr ebost a dderbyniwyd heddiw o’ch adran yn ein gwahodd i ddysgu mwy am ddod yn swyddogion ym Myddin Prydain.

Mae hyn yn ddefnydd gwarthus o adnoddau a dylanwad y brifysgol. Mae’n debyg y plediwch mai rhoi cyfle i bobl sy’n awyddus i fod yn filwyr yn barod ymchwilio i hynny y mae’r brifysgol. Ond trwy wneud hyn rydych (yn uniongyrchol neu fel arall) yn croesawu, cefnogi ac annog y recriwtio hwn.

Os ydi goruchwylio lladd pobl ddiniwed yn enw Prydain yn llwybr gyrfa dymunol i rai pobol, eu problem nhw ydi hynny. Gadewch i’r fyddin eu ffendio a’u troi’n filwyr gan ddefnyddio’u hadnoddau a’u perswâd eu hunain. Peidiwch â rhoi lle ac anogaeth iddynt yn y brifysgol.

Gall fod gennych chi ac eraill o fewn eich adran a’r brifysgol gefnogaeth bersonol i ymgyrchoedd milwrol Prydain. Fy hun, does gen i ddim – fy unig farn ar y rhyfel yw ei bod yn drasiedi fod hogiau ifanc naif a diniwed (rhai ohonynt yn ffrindiau ysgol i mi) yn cael eu lladd wrth ddilyn polisiau hunanol llywodraeth Loegr. Dylech gydnabod y gwahaniaeth barn a sensetifrwydd y mater o leiaf. Nid lle’r brifysgol yw annog ei myfyrwyr i fynd i’r fyddin.

Rwy’n edrych ymlaen at eich ateb – gobeithio y byddwch yn ymddiheuro, yn dweud wrth y fyddin ddefnyddio’u hadnoddau eu hunain i recriwtio, ac yn addo na fydd y fath gamddefnydd gwarthus o adnoddau a dylanwad y brifysgol yn digwydd eto.

Yn gywir,

Guto Dafydd

Doedd gan Ms Goodhew mo’r cwrteisi na’r asgwrn cefn i ateb fy ebost. O wel. Ond wedyn cefais ebost ar 24/11/09 yn fy ngwadd y tro hwn i gyflwyniad gan Lieutenant Commander Mark Williams.

Fyddai dim rhaid iddyn nhw gytuno â’r farn sydd gen i am y rhyfel i barchu’r ffaith fod gwahaniaeth barn mawr am ymgyrchoedd byddin Prydain. Ond maen nhw wedi gwneud mwy na pheidio â pharchu’r teimladau a fynegais – maen nhw wedi gyrru ebost arall. Does dim hyd yn oed nodyn i gysuro’r rhai ohonom sy’n ansicr am addasrwydd hyn. Ac nid darparu gwybodaeth yn unig y mae – mae’r ebost wedi’i eirio fel hysbyseb i annog, perswadio a denu.

Dwn i ddim ai ansensetif ta militant ydi pwy bynnag sy’n gyrru’r ebost i ni. Mae’n ymddygiad gwarthus sy’n dwyn anfri ar y brifysgol. Hoffwn wybod ar ba lefel y mae’r brifysgol yn awdurdodi’r defnydd hwn o’i dylanwad a’i hadnoddau.

[Hoffwn wneud yn glir fod gen i bob cydymdeimlad â hogiau ifanc o gefndiroedd difreintiedig sy'n ymuno â'r fyddin am nad oes cyfle arall ar gael iddyn nhw. Nid eu bai nhw ydi'u bod nhw'n cael eu gyrru gan lywodraeth Prydain fel ŵyn i'r lladdfa. Fel dwedodd Twm Morys - 'Gyrra'r hogia eto ar eu rhawd, / yr hogyn dwl a'r hogyn tlawd, / i wneud eu llanast dros y lli - / ond paid â gwneud hynny yn fy enw i.' Ond ar y llaw arall, rhywun â gradd brifysgol, wedi cael cyfleon da, yn mynd i'r fyddin ar gyflog bras i reoli'r ymladd? Dim cydymdeimlad.]

Ddoe cyhoeddwyd adroddiad sy’n datgelu sgandal anferth am sut mae’r heddlu yn gweithredu ac am sut maen nhw’n gweld eu rôl. Mae’r heddlu wedi bod yn arestio pobl yn unswydd er mwyn casglu eu DNA: o’r blaen, efallai y bydden nhw’n eich holi neu yn eich rhybuddio am rywbeth dibwys heb eich arestio, ond rŵan maen nhw’n arestio pobl yn ddiangen. Does dim rheswm am hyn heblaw casglu DNA pobl sydd heb gyflawni trosedd o gwbwl er mwyn chwyddo’u bas data o fanylion unigryw lleiaf pawb.

Mae’r stori hon yn dangos bod manylion 5 miliwn o bobl bellach gan yr heddlu. Bron i 10% o’r boblogaeth. A syrpreis syrpreis, mae data bron i dri chwarter hogiau croenddu 18-35 oed gan yr heddlu. Does dim sail i’r bas data mewn cyfraith (diolch byth fod Llafur ar y ffordd allan) a does neb annibynnol yn goruchwylio’r bas data.

Mi fydd rhai pobl yn gofyn pam dylen ni boeni. Os nad ydan ni wedi gwneud rhywbeth o’i le, pam rydan ni’n gwrthwynebu i’r heddlu gadw’n manylion? Beth sydd gynnon ni i’w guddio? Fy hun dwi ddim isio byw mewn gwlad lle nad ydi pobl yn unigolion rhydd sy’n cael eu hystyried yn ddieuog nes bod prawf i’r gwrthwyneb. Dwi ddim isio byw mewn gwlad lle mae pawb yn cael eu hystyried yn droseddwr posibl yn hytrach na dinesydd gonest.

A phwy sy’n gyfrifol am o bas data hwn? Yr heddlu. Casgliad o iobs a ioncs sydd wedi ffoli ar eu hawdurdod eu hunain – traffic wardens efo mwy o fysyls a mwy o rym. Iobs a ioncs sy’n meddwl eu bod nhw’n amddiffyn rhywbeth gwerthfawr trwy wneud pawb yn sysbects.

Lle mae Gogledd Cymru yn sefyll yn hyn o beth. Syrpreis, syrpreis. Rydan ni’n lwcus – rydan ni’n byw mewn ardal heb lawer o droseddu. Rydan ni’n rhif 32 trwy Brydain o ran troseddau i bob mil o bobol, efo 68. Ond rydan ni’n ddeunawfed o ran cymryd samplau o bobl – 91 o bob mil. Faint o bobl ddiniwed ydi hynna? Os ydi fy maths yn iawn, bron i 14, 500 o bobl sydd heb wneud dim byd yn rong, ond sydd â’u manylion DNA wedi’u cymryd gan Heddlu Gogledd Cymru.

Darllenwch Nineteen Eighty-Four ac arswydwch.

Mi glywais i’n ddiweddar fod Radio Cymru wedi colli 23% o’i gwrandawyr eleni. Mae hynny’n profi bod y newidiadau a wnaed yn weddol ddiweddar wedi methu’n llwyr – a doedd dim rheswm yn y byd pam y dylen nhw lwyddo. Dwi’n synnu, a dweud y gwir, nad oes mwy na 23% o’r gwrandawyr wedi cefnu ar y gwasanaeth. Felly dyma gynnig golwg ar yr amserlen fel y mae, a rhannu chydig o syniadau – rhai ymarferol, anuchelgeisiol a syml – am sut i newid amserlen ac arlwy’r sianel.

Os bydd rhywun yn Radio Cymru yn cytuno â mi, mae croeso i chi ddefnyddio rhai o’r syniadau. Byddai ffi yngynghori yn neis, ond mi fyddai’n well gen i wasanaeth gwell.

05:00 Richard Rees

Dwi’n hoff o raglen Richard Rees – mae hi’n ddifyr, nostaljic ac yn rhywbeth i ymlacio yn ei sŵn. Dwn i ddim os ydi hi’n apelio at foregodwyr y genedl ac mae hi’n wastraff yn y slot yma.

07:00 Post Cyntaf

Dwi ddim yn ffan o arddull cyflwyno Garry Owen ond peth personol ydi hynny. Ydi awr a hanner braidd yn fyr i raglen newyddion fwyaf cynhwysfawr y dydd?

08:30 Eleri Siôn a Dafydd Du

Mae Dafydd Du’n gyflwynydd ardderchog – mae’n swnio’n dda ac yn gallu cuddio’i ddeallusrwydd pan fo angen a thrafod yn fwy sylweddol dro arall. Mi all apelio at fwy nag un gynulleidfa. Dwn i ddim at bwy mae Eleri Siôn yn apelio, ond dydi het groch ddim yn apelio ataf i ben bore. Dwi’n deall ei phersona (hurtan swnllyd sy’n gwneud jôcs budur a siarad yn blond) ond dydi ei chynulleidfa darged ddim yn amlwg i mi. Mae angen chwarae cerddoriaeth well yn hytrach na rhyw bop gwneud canol-y-ffordd. Mae ‘na rai pethau da am y rhaglen – adolygu’r papurau a phethau felly – ond mae bywiogrwydd blond Eleri Siôn a’r gerddoriaeth wael yn fy nhroi ymaith.

10:30 Nia

Fel Dafydd Du, mae Nia’n gallu bod yn hwyl weithiau ac yn fwy difrifol pan fo angen. Mae ganddi’r ddawn i drafod pethau mawr yn agos-atoch, mae ganddi class a gall siarad â deallusion a phobl gyffredin yn yr un ffordd.
12:00 Taro’r Post Y rhaglen dwi’n ei charu a’i chasau. Mae’n rhaglen drafod ardderchog ac mae Dylan Jones – er ei fod yn pegynnu’n ofnadwy wrth chwarae devil’s advocate – yn llywio trafodaeth a denu ymateb yn wych. Mae’n rhaglen y mae pobl yn fodlon cysylltu â hi ac er ei bod yn denu’r un math o grancod â phob sioe siarad yn y byd, dyma’r lle i glywed barn y bobl. Ar y llaw arall, mae gynnyn nhw dueddiad i siarad gormod am obsesiynau ychydig o bobl (blydi Syr Wynff er enghraifft). Hefyd, mae gormod o begynnu rhwng materion eithriadol o gyfyng a lleol eu hapêl ar un llaw, a phethau fel arolygon sy’n dweud bod pobl sy’n bwyta sosej rôls yn fwy tebygol o gael tatŵs ar y llaw arall. Mae amseriad y rhaglen o fewn yr amserlen newydd yn anghywir – mae’n rhy gynnar oherwydd mae pobol eisiau ei chlywed amser cinio.

13:15 Amrywiol

Amrywiaeth dda o raglenni safonol tri chwarter awr – Gwilym Owen, Blas, y Talwrn, cwisiau a rhaglenni dogfen/drama. Slot fach neis.

14:00 Jonsi

Syniad dwl sydd wedi cyflawni disgwyliadau arswydus y rhan fwya o bobl amdano. Mae gan Jonsi ei gynulleidfa a’i gryfderau. Mi allwn jyst abowt fyw efo’r ffaith mai Jonsi oedd yn y bore o’r blaen – mae honno’n slot y gallaf gysgu drwyddi neu gadw’n brysur yn ei hystod. Ond mae’r slot bnawn yn un y bydd rhywun yn troi at y radio ar fympwy am gerddoriaeth ysgafn yn gyfeiliant i’w bnawn. Ond beth bynnag am gryfderau Jonsi – ac mi ydw i’n rhesymol hoff ohono yn ei le, mewn dosys bychain – nid slot deirawr drwy’r blydi pnawn yw ei le. Yn y pnawn, mae angen cyflwynwyr gweddol hoffus nad ydynt yn tynnu sylw atyn nhw’u hunain, yn chwarae cerddoriaeth dda sy’n apelio at bawb (ac mae’r fath beth yn bosib). Mae steil Jonsi’n apelio at gynulleidfa gyfyng ac mae’r canu gwlad arteithiol wael y mae’n ei chwarae am yn ail â phop erchyll yn farchnad gyfyng arall. Er nad Dylan Wyn a Meinir Gwilym oedd y cyflwynwyr gorau a welodd y byd erioed, a bod gwendidau mawr yn eu rhaglen, mi oedd y syniad sylfaenol yn iawn.

17:00 Post Prynhawn

Efallai bod Gareth Glyn wedi mynd braidd yn stêl bellach ond dwi’n hoff o’i arddull ac mae’r rhaglen yn reit dda.

18:00 Amrywiol

Yr un fath â’r slot 13:15

18:30 Geraint Lloyd

Mae diben y rhaglen hon y tu hwnt i mi. Efallai ei bod yn apelio at y ddemograffeg bois loris a josgins sir Aberteifi, ond dydi honno ddim yn ddemograffeg sy’n teilyngu gostwng safonau i’r fath raddau er ei mwyn.

20:02 C2

Mae hon fel gorsaf arall i bob pwrpas efo’i gofynion a’i gwendidau (Glyn Wise) a’i chryfderau (Lisa Gwilym) ei hun.

Thalai hi ddim i mi gwyno heb gynnig atebion. Felly beth am hyn?

05:00 Galwad Gynnar

Rhaglen gylchgrawn efo’r pethau a ystyrir yn rhy geeky, cymhleth neu amhoblogaidd i’w darlledu yn ystod y dydd.

06:30 Post Cyntaf

Rhaglen newyddion ar lun Today – stwff difrifol efo’r hanner awr olaf yn fwy anffurfiol. Cael Rhun ap Iorwerth yn gyflwynydd – mae o ar raglen fore Radio Wales ar hyn o bryd ond dwi’n siŵr y byddai o’n fodlon newid i’r Gymraeg.

09:00 Dafydd Du a Nia Roberts

Cyfuno’r ddau yma, sy’n gwneud y rhaglen yn un hyblyg – gellid cadw’r eitemau mwy hwyliog ond rhoi sylw mwy teilwng i faterion lleol hefyd – achosion da neu rywun yn nofio’r sianel neu beth bynnag. Ar ddyddiau efo newyddion pwysig gellid trafod hynny hefyd – mae’r ddau gyflwynydd yn ddigon abal i drafod unrhyw beth yn estynedig ac mewn ffordd boblogaidd. Gellid dod â chyfweliadau mwy estynedig i mewn o raglen Nia, a chael adolygiadau a thrafodaethau hefyd. Dau gyflwynydd fyddai’n creu rhaglen ddifyr fyddai’n cyfuno’r direidus a’r sylweddol mewn ffordd boblogaidd.

11:30 Amrywiol

12:15 Taro’r Post

Mae’r rhaglen bob amser yn rhedeg allan o amser, ac mae’r brys yn annog cyfraniadau croch yn aml. Felly byddai’r rhaglen yn para awr a thri chwarter ar ei newydd wedd, efo bwletinau newyddion bob hyn a hyn. Gellid cael ambell gân, hyd yn oed, i greu rhaglen fymryn yn fwy chilled. Efallai y gellid cael mwy o arbenigwyr – gwleidyddion neu academyddion, yn dibynnu ar y pwnc – er mwyn codi ansawdd y ddadl dipyn bach. Ond byddai’n rhaid gofalu ei bod yn dal yn rhaglen y mae pobl yn barod iawn i gyfrannu iddi.


14:00 Lisa Gwilym a Dyfan Tudur

Yn y slot hon y mae angen meddwl am gyflwynwyr newydd fwyaf. Dwi’n hoff o steil Lisa Gwilym o C2. Cyflwyno miwsig newydd y mae hi ar ei rhaglen hi; mae ganddi natur dawel a ffordd braf o gyflwyno. Darllen newyddion (ar y Post Prynhawn dwi’n meddwl) y mae Dyfan Tudur – mae ganddo fo egni ac mae o’n eglur iawn ei arddull. Dwi ddim yn siŵr o’r dewis yma – bosib bod steil Lisa Gwilym yn rhy fewnblyg ac ella bysa Dyfan Tudur yn swnio’n rhy debyg i ddarllenydd newyddion. Ac mae’n amhosib dweud sut byddai’r gemeg rhyngddyn nhw. Gwaith meddwl yma ond mae’r ddau dwi wedi’u cynnig yn gyflwynwyr dwi’n hoff iawn ohonyn nhw a dyna’r patrwm dwi’n meddwl sydd orau – cyflwynwyr hoffus, deallus a gweddol wylaidd.

17:00 Post Prynhawn

Yr un fath ag o’r blaen – ond arbrofi efallai efo cyflwynwyr gwahanol.

18:00 Amrywiol

Rhaglenni dogfen a dramâu.

18:30 Richard Rees

Rhaglen i ymlacio a bod yn nostaljic ar ôl swper.

Wrth reswm, cynllun brysiog ydi hwnna ond mae’n arlwy llawer iawn gwell a synhwyrol na beth sydd yna ar hyn o bryd. Croeso i chi awgrymu gwelliannau!

Rhywbeth nad oedd ar y bwrdd gan Syr Emyr Jones Parry oedd cynyddu nifer aelodau’r Cynulliad. Dwi’n meddwl bod hynny’n gamgymeriad oherwydd dydi 60 aelod ddim yn ddigon (er bod llawer o dead wood yno ar hyn o bryd).

Yn fy marn i un o broblemau mwyaf difrifol datganoli ydi diffyg ail siambr. Fydd dim modd i’r Cynulliad greu deddfwriaeth iawn heb dŷ arall, mwy annibynnol na’r pwyllgorau, i graffu ar y ddeddfwriaeth mae ACau yn ei gyflwyno. Yr hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd ydi bod y deinosoriaid ar y Pwyllgor Materion Cymreig yn cymryd pethau yn eu dwylo’u hunain ac yn bihafio fel ail siambr sy’n sgrwtineiddio deddfwriaeth y Cynulliad. Maen nhw’n gwneud hynny am eu bod yn hen ddynion gwrth-ddatganoli sydd ddim yn hapus gweld y penderfyniadau pwysicaf am Gymru’n cael eu gwneud yn y Cynulliad. Maen nhw wedi tarfu ar yr LCO iaith oherwydd cynnwys y mesur ac nid am resymau cyfansoddiadol-gyfreithiol fel maen nhw i fod i wneud.

Ond ar y llaw arall mae angen i rywun wneud y gwaith a gellid dadlau mai dod i’r bwlch y mae’r ASau. Felly yn lle ychwanegu 20 aelod cynulliad at y 60 sydd yno’n barod, beth am gael ail dŷ Cymreig o 20 o’r mawr a’r da yn craffu ar ddeddfwriaeth y Cynulliad? Byddai’n gyfuniad o’r Privy Council a Thŷ’r Arglwyddi. Gallent gyfarfod yn y Swyddfa Gymreig, efallai, ac os oes rhaid eu hethol (dwi o blaid ail siambr anetholedig) dylai’r tymhorau fod yn saith neu ddeng mlynedd.

Be dach chi’n feddwl? Dwi’n meddwl bod angen mawr am ail siambr yn y bae – oes gynnoch chi syniadau am fanylion hynny tybed?

Byth ers cychwyn y blog ‘ma, dwi wedi bod isio slagio Wynfford Elis Owen a’i ffrindia bach militant ddirwestol a’u hymgyrch fach anaeddfed yn erbyn alcohol yn yr Urdd i gyd off nes bod fy ngheyboard yn racs. Nes y dof o hyd i’r cynddaredd angenrheidiol, rhaid i hyn neud…

Gweledigaeth meddwyn cwsc

Roedd y parti’n faich erbyn hynny, mae’n rhaid dweud, a minnau wedi fy llethu gan fwy na’m siâr o botel jín. Gorweddais ar soffa. Wedi i gerbydres ddiog Huwcyn Cwsg fy nghludo o brysurdeb, sŵn ac oglau mwg y byd a’m gadael yn chwilfrydig ar gornel rhyw gae, ger lôn oedd yn wyrdd gan ddail ac yn llonydd gan awel ysgafn, dodais fy nhîn i lawr am ennyd a diolch am i’r trên cwsg ddod â mi o dre’r effro i wlad y cyntun.

Pwy ’ddyliech chi ddaeth i lawr llwybr breuddwyd tuag at fy nghornel i o’r cae? Syr Wynff a Phlwmsan – un ar ei foto-beic a’r llall yn y seidcar. Neidiais at Plwmsan ac edrych ymlaen at fy mreuddwyd.

‘Wel dyma ardderchog,’ meddwn. ‘Pwy fynnai Elis Wynne am freuddwyd pan allai gael Wynford Elis?’ Ond syllu’n syth yn ei flaen ddaru Syr Wynff, heb sbarc yn ei lygaid nag antur yn y gyrru. Doedd dim gair i’w gael gan Plwmsan yntau chwaith, gan fod ei fawd wedi’i osod yn barhaol yn ei geg gan gadwyn o gwmpas ei ben. Daeth y beic â mi i dref olau, ddi-fwg, a’i strydoedd oll yn syth a’r tai yn unffurf. Es am dro o gwmpas y siopau, oedd oll yn gwerthu celfi ac offer cwbl ddi-liw a diflas o angenrheidiol. Roedd arwydd ‘Dim trwydded allanol’ ar bob siop. Doedd dim sgwrs i’w chael gan neb, heblaw rhyw bregethwr stryd yn y pellter a rybuddiai am beryglon y ddiod gadarn. Dyma Taid yn dod ataf.

‘Wannwl, Taid,’ meddwn. ‘Hen le bach diflas ydi hwn.’

‘Sgen ti isio gwbod pam? Tyrd hefo mi i weld bedydd Aisgób!,’ meddai Taid, ac i ffwrdd â ni i lawr y taith-sbienddrych. Safem wedyn yn oriel ffatri enfawr. Gwelem res hir o hogiau nad oeddent yn hŷn na phedair-ar-ddeg yn aros eu tro wrth beiriant digon digri’r olwg. Gwisgai’r bechgyn oll drowsus brown, â bresus, oedd yn rhy fyr iddynt, a chrys T melyn – yn union fel Plwmsan.

‘Weli di,’ meddai Taid, ‘dyma’r seremoni bwysig bwysig pan fo’r hogia ’ma i gyd yn dod yn ddisgyblion ufudd i Syr Wynff. Tyrd yn nes.’ Wrth i’r hogiau gyrraedd y peiriant digri’r olwg, penlinient a sibrwd yn daer:

‘Wpadês.’

‘Dyna nhw’n edifarhau am y dyheadau fyddai ganddyn nhw ’mhen dwy flynedd am y ddiod gadarn,’ esboniodd Taid ac ysgwyd ei ben yn drist. ‘Ond wedi dweud ‘Wpadês’, mi gânt ’u cyfran o Slebjanitoriws.’ Wedi i’r weddi edifeiriol ddod o enau pob bachgen yn ei dro, codai braich fetal o grombil y peiriant ac arni blât papur â chwstard puro – neu Slebjanitoriws yn hytrach – arno. Trawai hwnnw’r bechgyn yn eu hwynebau, ac roeddent oll yn awyddus i rwbio’r cwstard yn iawn i’w cyrff.

‘Nid cwstard cyffredin mo hwnna,’ eglurodd Taid. ‘Mae o’n eli arbennig sy’n treiddio i eneidiau’r hogia ac yn eu cadw nhw’n bur. Cemega, bacteria – hwnna ydi o. O hyn allan wnân nhw ddim dyheu am ddim byd – na diod, na merched, na ffwt-bôl – dim byd ond gwasanaethu Syr Wynff.’

‘Ydach chi’n meddwl bod hyn yn syniad da?’

Neges: yn dilyn anufudd-dod meddyliol dan y categori ‘Datgan Barn Anffafriol’ rhwystrwyd Mr Taid rhag mynegi unrhyw farn,’ meddai llais metalaidd er bod ceg Taid yn symud. ‘Wrth ei holi am farn torasoch chwithau ganllawiau ymwelwyr addysgol. Hwyl fawr.

Deffrais ar y soffa ddrewllyd â bwystfil o gur pen, a diolch byth am hynny.

I gychwyn, er nad ydw i wedi gwneud y political compass ers tro, dwi’n fy nghyfri fy hun ar y chwith yn wleidyddol ond ddim yn sosialydd – dwi’n ddemocrat cymdeithasol.

Mae gan Lafur afael mul-â-roset ar lawer o’r cymoedd, ac mae’r bathodyn ’sosialydd’ yn ddigon i wneud rhywun yn aelod seneddol. Mae syniadau teilwng y tu ôl i sosialaeth ond wrth geisio’i gwneud yn ffaith mae’n methu – mae naill ai’n rhy ormesol neu yn rhy ddarniog. Mae sosialaeth ar yr un pryd yn ddyhead radical, ac hefyd yn syniad sydd o’i weithredu yn golygu newid a meddiannu system/gwlad yn gyfangwbl. Yn ddarniog a byrbwyll y mae sosialwyr Llafur y de yn gallu gweithredu (a diolch byth nad oes ganddyn nhw rym go iawn). Does dim byd yn radical am eu sosialaeth nhw chwaith: nhw ydi’r sefydliad yn y cymoedd – ‘gangsters’ wnaeth Alun Davies eu galw nhw.

Y canlyniad? Dwi’n hoff o’r stori am y sgwrs fer rhwng Iain Duncan Smith ar ymweliad â’r cymoedd ac un o’r trigolion.

“You haven’t got a chance here – this place is Labour through and through.”

“Yes – and look at it.”

Dwi ddim yn awgrymu mai Ceidwadaeth ydi’r ffordd i achub y de diwydiannol. Ond mae sosialaeth wedi methu fel ideoleg ac er gwaetha’r ffaith fod pleidleiswyr y de-ddwyrain wedi bod yn pleidleisio i’r sosialydd ers gormod.

Ond mae strategaeth y Blaid i ennill mwy o bleidleisiau’r cymoedd yn gam gwag: brandio’r Blaid â sosialaeth (a cheisio gwadu rywsut fod y Blaid mor Gymraeg â hynny). Wel mae hynny wedi gweithio’n iawn i Lafur am ddegawdau...

I gychwyn, mae’r strategaeth yna’n gelwyddog – brand ffals ydi sosialaeth ar y Blaid: mae trwch ei haelodau llawr gwlad a’i haelodau etholedig yn y canol neu’r canol-chwith, er bod ‘na nifer o aelodau chwith-gibddall yn y Blaid hefyd. (Hen ryddfrydiaeth ydi gwleidyddiaeth llawr gwlad y Blaid – mi geisiaf wneud post am hynny.) Cenedlaetholdeb sy’n gwneud pobl yn Bleidwyr.

Mae gan y Blaid a chenedlaetholwyr ddyletswydd arbennig at y de-ddwyrain, ardal y mae Llafur wedi’i hesgeuluso ar ôl cynnig dim byd ond yr addewid o sosialaeth ac y mae Lloegr wedi’i hegsbloetio nes ei gadael yn un o’r llefydd mwyaf difreintiedig yn y wlad. Fedar yr agenda genedlaetholgar ddim bod yn llwyddiant nes bydd y cymoedd yn ffynnu eto; wnân nhw ddim ffynnu tra bo Llafur yn dal mewn grym yno.

Felly yn lle smalio’i bod yn sosialwyr, mae’n rhaid i’r Blaid gynnig syniadau economaidd gwell, rhai realistig sy’n defnyddio’r sector breifat a syniadau busnes ar y cyd â gwella addysg, gofal iechyd ac ati. Yn ogystal, mae’n rhaid buddsoddi arian a phobl yno.

Ochr yn ochr â’r ffaith fod gweithio ar wella bywyd yn y cymoedd yn ddyletswydd i genedlaetholwyr, mae yna fantais wleidyddol i’r Blaid. Mae eu hunaniaeth Gymreig yn bwysig i Gymry diGymraeg ac mae gan lawer ewyllys da tu hwnt i’r disgwyl at y Gymraeg: mae’n wladgarwch y byddai’n bosib ei droi’n genedlaetholdeb goncrid. Roeddwn i bron â bod yn fy nagrau ddoe yn gwrando ar Gymry diGymraeg o Ferthyr a Chaerffili yn siarad yn angerddol ac eglur o blaid mwy o rymoedd i’r Cynulliad. Roedd eu gwladgarwch yn syml, yn gomon-sens ac yn danbaid. Mae hwn yn botensial etholiadol gwych i’r Blaid – mae angen strategaeth fwy dychmygus sy’n fwy na cheisio dwyn dillad Llafur.

Mae ateb problemau’r cymoedd yn rhan annatod o’r prosiect cenedlaetholgar ac nid drwy bosio fel sosialwyr y mae gwneud hynny.

ON: Os oes ‘na rywun sy’n darllen sy’n sgwennu ar dudalen we’r Blaid, ‘u’ sydd ar ddiwedd ‘croesawu’ a dydi penawdau fel ‘Arweinydd Plaid yn…’  a ‘Plaid mewn llywodraeth yn…’ a ‘…yn cefnogi polisi Plaid’ ddim yn gwneud blydi sens yn Gymraeg! Beth sy’n bod ar ‘y Blaid’?!

Mi fyddwch yn falch o glywed bod ‘na ddiweddariad i’r blogiad diwethaf ar ei ffordd, yn bennaf o fod wedi gwrando ar raglen drafod amser cinio Radio Wales. Mi wnaeth cenedlgarwch pobl ddiGymraeg, a’u hyder yng Nghymru i’w llywodraethu ei hunan, argraff fawr arna i. Doeddwn i (‘grachach’ neu ‘taffia’ neu ’sefydliad’ ag ydw i mae’n debyg) ddim wedi cymryd i gyfrif fod ‘na gefnogaeth mor gref, a chefnogaeth lawer mwy eglur nag a gewch chi gan wleidydd neu’r cenedlaetholwr stoc, i’w chael gan Gymry o’r de-ddwyrain fel Nicky o Gaerffili a Brian o Ferthyr. Mae’n werth gwrando ar y rhaglen.

Ond cyn troi at hynny, gadewch i ni weld beth sydd gan o wŷr mawr y blogosffer i’w ddweud.

Mae Peter Black yn gweld yr Adroddiad yn achos cywilydd mawr i Blaid Cymru. Ei farn ydi bod yr holl gonfensiwn yn dric gan Lafur i atal y broses ddatganoli. Efallai bod mymryn o wirionedd yn hynny, ond y broses LCO ydi’r llyffethair mwyaf o lawer. A beth bynnag, am ‘talking shop’ mae’r confensiwn wedi bod yn werthfawr iawn o ran cychwyn ar y broses o addysgu pobl Cymru am sut mae’r wlad yn cael ei llywodraethu. Beth pe bai’r confensiwn heb fod wrthi? Gallai cynllunwyr y system lyffetheiriol bresennol smalio’i bod yn gweithio a smalio mai’r sefydliad gwleidyddol Cymraeg, yr elît, yn unig sydd o blaid mwy o ddatganoli. Mae adroddiad y Confensiwn yn amhrisiadwy am ei fod yn rhoi barn y bobl yn sail i’r symud ymlaen at fwy o bwerau. ‘Talking shop’, ia – ond ‘talking shop’ bwrpasol ac effeithiol: bydd yn llwyfan i newid go iawn. Yn y bôn, mae Peter yn defnyddio’r adroddiad pwysig hwn i ymosod ar Blaid Cymru. Trist iawn, feri sad.

Yn ail, mae Gwilym Euros Roberts yn defnyddio cyhoeddi’r adroddiad i bedlera’r hen gŵyn ystrydebol bod y Sowth yn ca’l bob dim a bo nhw (y bobol ddrwg yn Cardiff Bay) ddim yn gneud dim byd i ni fyny’n fama. A bod yn deg â Gwilym, mae yn sôn am un enghraifft benodol sef gwendid y rhaglenni ProAct a ReAct mewn rhai siroedd gogleddol; dwn i ddim faint sydd gan hynny i wneud â daearyddiaeth y siroedd yn hytrach na sut y cynlluniwyd y rhaglenni. Mae’r ddwy broblem arall y mae’n cyfeirio atynt – setliad ariannol gwael Gwynedd, Conwy a Môn a bod y gogledd-ddwyrain yn ymlynu mwy at Lerpwl na Chaerdydd – yn broblemau y byddai mwy o bwerau yn helpu â nhw. Byddai mwy o rymoedd i’r Cynulliad yn golygu bod gweithio cydlynus (ych – am air) ar draws Cymru, ac ymateb i broblemau ar draws Cymru fel un uned, yn llawer haws. Nid heddiw yw’r dydd i gwyno bod y gogledd yn cael cam. Newid i brosesau’r Cynulliad sydd ar y bwrdd; newid angenrheidiol i effaith y Cynulliad a hwb i’r hyder yn natganoli. Gallwn bwyso am degwch o ran sut mae’r grymoedd newydd yn cael eu gweinyddu eto.

Refferendwm

Ag ystyried ‘mod i’n disgwyl i hwn fod yn flog gwleidyddol yn bennaf, dwi wedi sôn ychydig iawn am wleidyddiaeth yn y blogiadau cyntaf – dwi wedi bod yn canolbwyntio ar ddiwylliant a’r celfyddydau ac mae’n debyg fod mwy o le, iws a chroeso i hynny.

Ond ar ddydd cyhoeddi adroddiad Confensiwn Cymru Gyfan, mae’n debyg y dylwn droi at wleidyddiaeth Cymru. Bu tipyn o sylw i roadshow Syr Emyr Jones Parry, oedd yn syniad tebyg i Big Conversation yr SNP ond yn amlbleidiol/amhleidiol a ddim yn ymgyrchydd. Profi’r dŵr oedd y bwriad – gweld a oes gan Gymru awydd pleidleisio’n gadarnhaol mewn refferendwm ar fwy o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol.

Dwi’n meddwl y bydd yr adroddiad yn dweud bod ‘na ewyllys da yng Nghymru am fwy o bwerau i’r Cynulliad – mae pobol yn gweld y cynulliad fel sefydliad gweddol lwyddiannus, ac mae ‘na nifer cynyddol yn gweld Cymru fel y lle iawn a phropor i lywodraethu Cymru ohono. Mae ‘na rai wedi awgrymu y bydd yr adroddiad yn fwy brwdfrydig na’r disgwyl ynglŷn â phryd i gynnal refferendwm – ‘go go go’ fydd y neges, mae’n debyg. Dwi ddim yn meddwl bod ‘na beryg sylweddol colli’r refferendwm felly gorau po gynta y cawn ni wared ar y system LCO – system sydd wedi’i chynllunio i fod yn llyffetheiriol.

Ond (ac mae hyn am swnio’n wirion o besimistaidd a Chymreig) ydi hyn i gyd ddim braidd yn…hawdd?

Yn 1979, roedd y refferendwm yn cael ei gyflwyno gan lywodraeth amhoblogaidd oedd ar ddod i ben. Doedd ‘na neb yn hyderus yn y mesur oedd gerbron a gwelwyd gwrthwynebiad croch iddo o’r tu mewn i’r blaid oedd yn ei gynnig, hyd yn oed. Wedi’r golled, roedd teimlad o gywilydd a rhwystredigaeth ar un ochr, a’r ochr wrth-ddatganoli yn falch o fod wedi profi nad oedd gan y mudiad cenedlaethol gefnogaeth boblogaidd. Yn 1997, cafwyd cyfle arall i newid meddwl – y tro hwn mewn set eithriadol ffafriol o amodau. Enillwyd y dydd o fymryn bach, ac er bod y mudiad cenedlaethol wedi bod yn ofnadwy o lwcus, y canlyniad oedd yn cyfri a chafwyd cwpwl o flynyddoedd cyffrous a theimlad fod Cymru am godi’n genedl hunanhyderus o’r diwedd.

Yn y ddau achos, mentrodd llawer o genedlaetholwyr eu holl deimladau ar y canlyniad. Arweiniodd yr atebion ddwywaith at newid sylfaenol yn sut roedd pobl yn gweld Cymru fel cenedl. Y tro hwn, mi fydd hi’n llawer anos taflunio dyhead gwaelodol y cenedlaetholwr ar y refferendwm. Cwestiwn cyfansoddiadol boring fydd gerbron y tro hwn – ella bydd pleidlais gadarnhaol yn arwain at gynulliad mwy effeithiol a chyhyrog. Ond fydd dim byd hanfodol, dim teimlad gwaelodol yn newid beth bynnag fydd y canlyniad.

Oes gen i syniad gwell? Ddo i nôl atoch chi ar honna…

Older Posts »